Job 13

Job yn dadlau ei achos

1Ydw, dw i wedi gweld hyn i gyd;
dw i wedi ei glywed a'i ddeall.
2Dw i'n gwybod cystal â chi;
dw i ddim gwaeth na chi!
3Ond dw i eisiau siarad â'r Duw sy'n rheoli popeth
13:3 Hebraeg,  El Shadai
;
dw i am ddadlau fy achos gyda Duw.
4Dych chi'n palu celwyddau i guddio'r gwir!
Cwacs! Dyna beth ydych chi.
5O na fyddech chi'n cau eich cegau!
Dyna fyddai'r peth callaf i chi ei wneud.
6Gwrandwch ar beth sydd gen i i'w ddweud;
rhowch gyfle i mi ddadlau fy achos.
7Ydych chi'n dweud y pethau annheg yma ar ran Duw?
Ydych chi'n dweud celwydd er ei fwyn e?
8Ydych chi am adael i Dduw ddweud rhywbeth?
Neu oes angen i chi ei amddiffyn e?
9Sut fydd hi arnoch chi pan fydd e'n eich archwilio chi?
Neu allwch chi ei dwyllo fe fel dych chi'n twyllo pobl?
10Bydd e'n siŵr o'ch ceryddu chi
am ddangos ffafr annheg ar y slei.
11Bydd ei ysblander yn codi arswyd arnoch chi,
a bydd ei ofn yn cydio ynoch.
12Geiriau gwag ydy'ch dywediadau slic chi;
atebion disylwedd, yn frau fel clai.
13Byddwch ddistaw, i mi gael cyfle i siarad.
Beth bynnag fydd yn digwydd i mi,
14dw i ddim am ollwng gafael!
Dw i'n fodlon mentro fy mywyd!
15Falle y bydd e'n fy lladd i; dw i heb obaith!
Ond dw i'n mynd i amddiffyn fy hun o'i flaen e.
16Yn wir, gallai hyn droi i fod yn achubiaeth i mi –
fyddai'r annuwiol byth yn meiddio sefyll o'i flaen.
17Gwrandwch yn ofalus arna i;
clywch beth sydd gen i i'w ddweud.
18Cewch weld, dw i wedi paratoi fy amddiffyniad,
a dw i'n gwybod mai fi sy'n iawn.
19Petai rhywun yn gallu profi'r achos yn fy erbyn
byddwn i'n tewi wedyn a disgwyl marw.
20Ond gwna ddau beth i mi, o Dduw,
fel bod dim rhaid i mi guddio oddi wrthot ti:
21Tynn dy law yn ôl,
a stopia godi dychryn arna i.
22Yna galw fi i gyfri, a bydda i'n ymateb;
neu gad i mi siarad gyntaf, i ti fy ateb i.
23Sawl gwaith dw i wedi gwneud camgymeriad a phechu?
Dangos i mi'r pechod a'r gwrthryfel yn dy erbyn di.
24Pam wyt ti'n cuddio oddi wrtho i?
Pam wyt ti'n fy nhrin i fel gelyn?
25Pam pryfocio deilen sy'n cael ei chwythu gan wynt?
Pam rhedeg ar ôl us wedi sychu?
26Rwyt wedi dyfarnu cosb chwerw i mi,
a gwneud i mi dalu am gamgymeriadau fy ieuenctid.
27Rwyt ti wedi rhoi fy nhraed mewn cyffion,
ac yn gwylio popeth dw i'n ei wneud –
rwyt ti'n marcio pob cam dw i'n ei gymryd.
28Dw i'n darfod fel rhywbeth yn pydru,
neu ddilledyn wedi ei ddifetha gan wyfyn.
Copyright information for CYM